Nodyn:Ar Apple Mac, defnyddiwch Cmd neu fysell Apple yn lle bysell Ctrl
I gychwyn defnyddio OmegaT, cerwch broject fydd yn dal eich holl ffeiliau, megis y ffeil ffynhonnell, cofion cyfieithu, geirfaon ac yn y diwedd eich ffeil wedi ei chyfieithu. Yn newislen y a theipio enw i'r project. Cofiwch lle rydych wedi creu'r project gan y bydd angen i chi fynd yn ôl ato.
, dewiswchWedi i chi roi enw i'r project bydd y deialog Creu Project Newydd yn agor. Ar frig y deialog hwnnw dewiswch eiaith y ffeil ffynhonnell a'r iaith y bydd y ffeil wedi ei chyfieithu ynddi ac yna clicio
i barhau.Os oes gennych ddiddordeb yn y gosodiadau eraill dewch nôl atynt ar unrhyw adeg drwy bwyso Ctrl+E.
Nesaf bydd deialog Ffeiliau Project yn agor. Cliciwch y Mewnforio ffeiliau ffynhonnell... i ddewis eich ffeiliau ffynhonnell.
Bydd OmegaT yn copïo'r ffeiliau hyn i'r is ffolder /source/
yn eich project newydd. Wedi i'r ffeil ffynhonnell gael ei llwytho i'r paen Golygu, mae modd cau'r deialog ffeiliau project.
Bydd OmegaT yn cyflwyno un segment ar y tro i chi ei gyfieithu. Wedi i chi gyfieithu pob segment, pwyswch Ctrl+U i symud i'r segment heb ei gyfieithu nesaf (neu Ctrl+Shift+U i symud i'r segment nesaf wedi ei gyfieithu). Pryd bynnag fyddwch eisiau gweld y cyfieithiad ar ei ffurf derfynol, pwyswch Ctrl+D i gynhyrchu'r ddogfen wedi ei chyfieithu, fydd yn cael ei chynhyrchu yn isfolder /target/ eich ffolder project. Wrth gyfieithu, defnyddiwch y dewislenni a i gyflawni swyddogaethau defnyddiol amrywiol.
Os yw eich ffeil ffynhonnell yn ffeil wedi ei fformatio, e.e. Microsoft Word, LibreOffice Writer neu HTML, bydd OmegaT yn trosi'r fformat i dagiau sy'n amgylchynu’r testun rydych yn ei gyfieithu. Yn aml bydd gan ddogfennau dagiau sydd â dim i wneud â fformatio, ond sydd hefyd yn bwysig. Yn y ffeil ffynhonnell (ac yn y ffeil wedi ei chyfieithu), gall brawddeg ffynhonnell edrych fel hyn
Bydd OmegaT, fodd bynnag, yn cyflwyno'r frawddeg yn y dull canlynol:
Mae'r tagiau o fewn OmegaT yn llwyd fel eu bod yn hawdd eu hadnabod. Nid ydynt wedi eu hamddiffyn, felly mae modd eu dileu, eu rhoi gyda llawn neu eu symud o amgylch y frawddeg darged. Er hynny, os byddwch yn gwneud camgymeriad wrth deipio'r tagiau fformat, efallai na fydd eich ffeil wedi ei chyfieithu yn peidio ag agor. Felly, pwyswch Ctrl+T cyn cynhyrchu eich ffeil wedi ei chyfieithu, er mwyn sicrhau fod eich tagiau yn gywir.
Unwaith i chi wneud yn siŵr nad oes gwallau tag yn eich cyfieithiad, pwyswch Ctrl+D i gynhyrchu'r ffeil targed, fydd yn cael ei chreu yn yr isffolder /target/
eich ffolder project.
Os nad yw ffeil yn llwytho i'r paen Golygu, gall fod y ffeil fod mewn fformat nad yw'n gweithio'n dda gydag OmegaT Gw. Pennod 7: Hidlau Ffeil yn y Llawlyfr Defnyddiwr am restr o fformatau y mae OmegaT yn gallu eu trin.
Mae modd creu project newydd ar gyfer pob darn o waith newydd ac mae modd ychwanegu nifer o ffeiliau ffynhonnell ar un waith i'r project.
I atgoffa eich hun o osodiadau cychwynnol y project, agorwch Osodiadau'r Project drwy bwyso Ctrl+E. I weld rhestr y ffeiliau y project, agorwch deialog y Ffeiliau Project drwy bwyso Ctrl+L.
Wedi i chi orffen cyfieithu, bydd OmegaT yn allforio tri cof cyfieithu o'r enw "level1", "level2" ac "omegat" i'ch ffolder project Mae modd rhannu cofion "level1" and "level2" gyda defnyddwyr rhaglenni cyfieithu eraill. Mae modd defnyddio'r cof "omegat" o fewn OmegaT mewn projectau fyddwch yn eu creu yn y dyfodol. Os fyddwch yn gosod ffeiliau cof cyfieithu yn isfolder /tm/ eich ffolder project, bydd OmegaT yn chwilio'n awtomatig am segmentau tebyg, sef "bras gyfieithiadau" .
Mae modd creu geirfa drwy bwyso /glossary/
eich ffolder project, a bydd OmegaT yn eu chwilio am eiriau .
Mae'n aml yn ddefnyddiol i chwilio am eiriau ac ymadroddion yn y ffeiliau ffynhonnell ac yn eich cyfieithiad felly pwyswch Ctrl+F i ddefnyddio'r deialog "Chwilio Testun".
Am gyflwyniad mwy cynhwysfawr gw. OmegaT for beginners ar wefan OmegaT Os fyddwch angen cymorth gydag unrhyw agwedd o OmegaT, teimlwch yn rhydd i ymuno â grŵp defnyddwyr OmegaT.